R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru mewn perthynas â rheoli TB mewn gwartheg? OAQ(4)0189(NR)
2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau incwm ffermydd yng Nghymru? OAQ(4)0190(NR)R
3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar echdynnu adnoddau naturiol Cymru? OAQ(4)0195(NR)
4. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ynni o ffynonellau nwy anghonfensiynol? OAQ(4)0194(NR)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddatblygu prosesau treulio anaerobig yng Nghymru? OAQ(4)0191(NR)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran mynd i'r afael â Jac y Neidiwr? OAQ(4)0183(NR)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)0184(NR)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol y parciau cenedlaethol? OAQ(4)0185(NR)
9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar weithredu'r cynllun Glastir? OAQ(4)0198(NR)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar unrhyw drafodaethau y mae ef neu ei swyddogion wedi'u cael ynghylch dichonoldeb cynhyrchu ynni o forlynnoedd llanw yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0188(NR)
11. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd aer yng Nghymru? OAQ(4)0193(NR)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â defnyddio maglau yng Nghymru? OAQ(4)0192(NR)
13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer pryfed peillio? OAQ(4)0197(NR)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y berthynas rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol? OAQ(4)0187(NR)
15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar dargedau gostwng allyriadau carbon Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0200(NR)W
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar ofal plant yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0226(CTP)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi anghenion Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru? OAQ(4)0221(CTP)
3. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar nifer y bobl yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at gyfrif banc sylfaenol? OAQ(4)0224(CTP)
4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo undebau credyd? OAQ(4)0225(CTP)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu'r cynllun Dechrau'n Deg? OAQ(4)0211(CTP)
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wella cysylltedd trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0212(CTP)
7. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog gwirfoddoli yng nghymoedd y de? OAQ(4)0215(CTP)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl hŷn sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0217(CTP)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cynlluniau’r Gweinidog ar gyfer cefnogi rhwydwaith Swyddfa'r Post? OAQ(4)0220(CTP)
10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y raddfa o brolemau dyled y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei hwynebu? OAQ(4)0222(CTP)
11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd tuag at strategaeth Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant? OAQ(4)0219(CTP)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar brosiectau adfywio yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0214(CTP)
13. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau ar dlodi yng Nghymru? OAQ(4)0213(CTP)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cynhwysiant ariannol? OAQ(4)0216(CTP)
15. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth mewn perthynas â dyraniadau cyllideb i'r trydydd sector? OAQ(4)0218(CTP)